AA Gwesty'r Flwyddyn i Gymru 2018
Mae Gwesty Trefeddian gyda'i olygfeydd yn edrych dros arfordir Canolbarth Cymru, hanner milltir o bentref hyfryd Aberdyfi.
Mae Gwesty'r Trefeddian yn lleoliad perffaith i deuluoedd, cerddwyr neu ymwelwyr sy'n chwilio am heddwch a thawelwch i ymlacio. Fe welwch fod teras haul y gwesty yn lle perffaith i fynd â byrbryd neu eistedd a gwylio machlud ar fin nos.
Mae cyfleusterau'r gwesty yn cynnwys pwll nofio dan do, cwrt tennis, mannau chwarae i blant dan do ac tu allan ac ystafell snwcer. Ar gyfer cwstmeriaid sydd eisiau ychydig o foethus, mae'r salon iechyd a harddwch yn cynnig dewis o driniaethau tylino a harddwch. Mae yna hefyd wi-fi am ddim drwy'r gwesty.
Mae gan y gwesty bedwar llawr gyda dewis o ystafelloedd gwely gyda olygfa o’r môr neu’r fynyddoedd. Mae lifft i bob llawr ac mae gan lawer o ystafelloedd gwely hefyd fonws o balconi preifat.
Mae pedair lolfa ar y llawr gwaelod lle gall cwstmeriaid ymlacio ac mwynhau golygfeydd y môr. Mae bwyd traddodiadol yn cael ei wieni o’r ystafell fwyta'r gwesty, o frecwast hyd at ginio. Mae'r cogydd yn anelu at blesio llawer o flasau amrywiol, gan ddefnyddio cynnyrch lleol ffres lle bynnag y bo modd.
Mae dewislen wych o winoedd a gwasanaeth cyfeillgar yn cyd-fynd â bwydlen 5 cwrs gyda’r nos.