Canllaw Emma Inch i gwrw crefft Cymreig

O Ceridwen y ddewines yn creu hud yn ei chrochan, i’r bragdai bach sy’n creu diodydd yr un mor hudolus, mae gan Gymru hanes hir a balch o fragu. Gofynnon ni i’r arbenigwraig cwrw Emma Inch i ddewis rhai o’i hoff gwrw crefft o bob cwr o Gymru. Felly, dewch ar daith hynafol a chyfoes a chrwydro’r wlad drwy gyfrwng un o’n hoff ddiodydd ni.