Popeth yn rhan o’r gwaith

Dwi'n cyrraedd Gelli Gyffwrdd cyn 8 o’r gloch y bore. Mae’n bwysig tu hwnt bod yma ychydig oriau cyn i’r ymwelwyr ddod, gan fod cymaint i’w wneud i baratoi diwrnod yn llawn hwyl i’r teuluoedd. Rydyn ni’n cymryd hwyl o ddifrif, ac mae’n rhaid i ni archwilio’r parc i gyd a phob un o’r reids cyn agor y drysau am 10 o’r gloch.

Tro annisgwyl ymhob cynffon

Mae’n rhaid i chi ddisgwyl tro annisgwyl ymhob cynffon, ac ar hyd y blynyddoedd rydyn ni wedi cael defaid yn y Ffau, a gwartheg o’r fferm drws nesaf yn pori yng nghanol Drysfa’r Crocodeilod (yn ffodus i’r gwartheg, does dim Crocodeilod go iawn yno – er y byddech yn synnu faint o bobl sy’n gofyn!).

Bydd mwy na 130,000 o bobl yn ymweld â’r parc bob blwyddyn. Rydyn ni’n denu plant rhwng deunaw mis a thair ar ddeg oed yn bennaf, ond daw pobl yma o bell ac agos am amryw resymau. Un difyr oedd yr Almaenwr oedd yn frwd am drenau gwyllt, ac wedi dod yma i weld ein trên gwyllt sy’n rhedeg ar ‘bŵer pobl’. Roedd ar ben ei ddigon yn cael ei dywys ar reid breifat, cyn iddo ddal trên arferol yn ôl i Fanceinion ar ei ffordd adref i’r Almaen. Fel mae’n digwydd, dwi newydd gael e-bost oddi wrth rywun arall sy’n ysgrifennu llyfr am drenau gwyllt, a bydd yntau’n dod yma, hefyd.

Y Ddraig Werdd

Mae'n trên gwyllt ni’n defnyddio’r un dechnoleg â’r rheilffyrdd halio oedd yn yr hen chwareli: wrth i gert gludo llwyth o lechi neu wenithfaen i lawr yr allt, byddai’n tynnu cert wag i fyny o’r gwaelod. Yma mae pobl yn mynd i mewn i lifft sydd, wrth iddo fynd i lawr, yn cynhyrchu’r pŵer i dynnu’r trên gwyllt yn ôl i ddechrau’r daith. Fe gawn ni rai pobl sy’n cwyno am eu bod yn gorfod cerdded yn ôl i fyny’r allt i fynd ar y trên gwyllt, ond a dweud y gwir mae’r rhan helaeth o ymwelwyr wrth eu bodd â dyfeisgarwch y peth.

Mae’r rhan fwyaf o’n hatyniadau yn isel eu defnydd o ynni, neu’n defnyddio dim ynni o gwbl. Er enghraifft, peth hawdd fyddai cael ceir bach modur, ond fyddai hynny ddim yn tycio i ni, felly mae’n rhaid pedlo er mwyn gwibio yn eich blaen. Rydyn ni eisiau i bobl ddefnyddio’u hegni eu hunain i gael hwyl.

Cyffroi’r synhwyrau

Rydyn ni’n cynnig profiadau synhwyraidd fel y Llwybr Troednoeth, yr un cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae pobl yn cerdded yn droednoeth dros dir amrywiol, gan gynnwys tywod, rhisgl coed, gwellt, pren a dŵr. Efallai bod hynny’n swnio’n rhyfedd i chi, ond mae pobl wrth eu bodd, yn enwedig y plant. Roedd y profiad o’i ddylunio yn llawer o hwyl hefyd – bu criw ohonon ni wrthi’n rhoi ein traed mewn sachau o wahanol gerrig mân er mwyn dewis y rhai oedd yn teimlo orau.

Bydd heriau o bob math yn ein hwynebu bob dydd yn Gelli Gyffwrdd. Mae’r rhan fwyaf o blant yn hoff iawn o Harley’r gwningen fawr [rhywun yn gwisgo siwt] ond mae’n codi ofn ar rai ohonynt, felly mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus a’i arwain i ffwrdd o unrhyw blant â gwefus yn crynu! 

Mynd y tu hwnt i’r galw

Fe fyddwn ni’n cael pob math o geisiadau rhyfedd gan bobl sy’n ymweld â’r parc. Yr wythnos ddiwethaf gofynnodd pennaeth ysgol a fedrai dau o’i athrawon roi gwisgoedd arbennig amdanynt a rhoi syrpréis i’r plant ar un o’r reids. Cyn belled â bod popeth yn ddiogel, fe wnawn ein gorau i fodloni pobl.

Dwi'n cofio un tro pan ofynnodd gofalwr bachgen dall a fedrai roi cynnig ar fwa a saeth, a doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w wneud. Wrth lwc roedd hi’n ddiwrnod tawel yma, ac roedd modd i ni fynd â’r bachgen at y targed i’w deimlo, cyn iddo gael sesiwn o hyfforddiant. Anghofia i fyth y wên oedd ar ei wyneb pan darodd y targed gyda’i saeth. Roedd honno’n foment amhrisiadwy.