Pe byddech chi'n mynd ati i greu'r parc thema cefn gwlad gorau erioed, mae'n siŵr y byddai'n debyg i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rhwng y bryniau a'r pantiau glas, y rhaeadrau, y gamlas dawel a'r trefi bach braf, mae popeth sydd ei angen yma yn un o ardaloedd difyrraf Prydain.

Mae'n lle hawdd ei gyrraedd, dim ond 30 milltir o Gaerdydd, a gallwch ddod i Fannau Brycheiniog o Fangor mewn llai na phedair awr yn y car. Ceir digonedd o le yma – pur anaml y gwelwch chi unrhyw dorfeydd. Wrth i chi grwydro y tu hwnt i'r llwybrau mwyaf poblogaidd fe ddewch chi o hyd i lonyddwch llwyr yng nghefn gwlad.

Hen, hen diroedd

Lluniwyd mynyddoedd, bryniau a dyffrynnoedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Oes yr Iâ, ac mae pobl wedi dylanwadu ar y tirlun hwnnw ers bron i wyth mil o flynyddoedd. Fe ddewch chi o hyd i ddegau o henebion cynhanesyddol ar y llethrau. Mae traddodiad cryf o ffermio yn ardal y Parc hefyd, ac mae'n arbennig o braf ymweld â'r trefi unigryw - ewch i gerdded yng Nghrucywel, gwrando ar jazz yn Aberhonddu, hel am eich bol yn y Fenni a phori drwy bentwr o lyfrau yn y Gelli Gandryll.

Afon gyda thai ar hyd y lan ac Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn y pellter

Aberhonddu

Mae ucheldiroedd y Bannau'n ymestyn mor bell o'r gorllewin i'r dwyrain ag yw Eryri o'r gogledd i'r de, a dim ond Mynyddoedd Cambria a saif rhyngddynt, ond maent yn ddau wahanol fyd. Tra bo Parc Cenedlaethol Eryri yn nodweddiadol am greigiau geirwon yr hen losgfynyddoedd, mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn llawn o weunydd glas, grug yn drwch ar y llethrau, a chopâu o dywodfaen wedi'u llyfnhau gan y gwynt a'r glaw a threigl amser.

Ceir amrywiaeth aruthrol yma, fel y mae Jon Pimm, un o wardeiniaid y parc, yn ei gadarnhau. “Mae pob rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn unigryw, gyda nodweddion arbennig ei hun. A minnau wedi bod yn gweithio yma ers dros ddeng mlynedd, rwy'n dal i ddod o hyd i lefydd newydd ac yn gweld golygfeydd godidog na welais erioed o'r blaen.”

Y mynyddoedd a'r gweunydd

Yn ymgodi uwchlaw'r Parc mae'r mynyddoedd uchaf yn neheubarth Prydain – Bannau Brycheiniog – a'r tair cadwyn sydd o'u cwmpas - y ddau Fynydd Du a Fforest Fawr. Maent yn amgylchynu'r ehangder mwyaf o dir comin yng Nghymru, sy'n ymestyn am oddeutu ugain milltir dros y bryniau. Merlod Cymreig sy'n cadw'r tir yn daclus yma. Disgynyddion merlod y pyllau glo ydynt, ac felly'n ddigon gwydn - dywed rhai eu bod yn wytnach na defaid, ac yn haws eu plesio o ran yr hyn maen nhw'n ei fwyta.

Wrth fynd tua'r de fe welwch yr haul yn tywynnu ar y cerrig calch ar ddiwrnodau lled-gymylog, a thua'r gorllewin nodweddir y tir gan greigiau ceimion, rhaeadrau ac ogofâu sydd â chymaint o arwyddocâd i ddaearegwyr fel y'i dynodwyd yn Geoparc Unesco yn 2005, yr un cyntaf yng Nghymru. Yn yr un modd â gweddill y parc, fe welwch chi Geoparc Fforest Fawr ar ei orau drwy fynd i gerdded yno, neu fynd ar gefn beic neu geffyl, naill ai ar eich pen eich hun neu gydag arbenigwr i'ch tywys.

Llun o'r gronfa o'r awyr gyda choed a bryniau, ac ynys fechan o goed yng nghanol y gronfa

Cronfa'r Bannau

Nosweithiau o dan y sêr

Treuliwch noson yn yr awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac os bydd hi'n glir gallwch weld canopi rhyfeddol o sêr uwchben. Wrth i'ch llygaid ddod i arfer â'r olygfa aruthrol o'ch blaen, byddwch yn sylwi ar glystyrau o sêr; os dewch chi ar yr adeg iawn efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld planedau pell neu gawodydd o sêr gwib. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn trefnu teithiau i syllu ar y sêr mewn mannau prydferth heb unrhyw oleuni artiffisial, yma yn y Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf yng Nghymru.

Llun o olion y sêr yn yr awyr, uwchben y llyn gyda mynyddoedd yn y cefndir

Syllu ar y sêr ger Llyn y Fan Fach

Straeon cysylltiedig