Mae gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Super Cup UEFA, Cwpan FA Lloegr, pêl-droed Olympaidd, Cwpan y Byd Rygbi’r Undeb a’r Gynghrair oll wedi cael eu cynnal yng Nghaerdydd. Cyfres y Lludw criced yn Stadiwm Swalec, Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd, Grand Prix Speedway yn y Stadiwm Cenedlaethol a Chyfres Hwylio’r Byd ym Mae Caerdydd. Mae gan Gaerdydd hanes cyfoethog o arwyr cartref hefyd; o Bencampwyr y Byd paffio i forwyr hwylio Olympaidd yn ennill medalau aur, a phêl-droediwr drutaf y byd.

Tu allan Stadiwm Principality gyda'r Afon Taf yn llifo heibio

Stadiwm Principality

Mae chwaraeon wrth galon y ddinas hon. Enghraifft dda yw Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, sydd â chyn-ddisgyblion nodedig megis y chwaraewr rygbi Sam Warburton, cyn-gapten Cymru a chapten buddugol cyfres y Llewod 2013; enillydd Tour de France 2018 Geraint Thomas, beiciwr sydd wedi ennill medalau aur Olympaidd hefyd; a’r seren bêl-droed Gareth Bale, sydd wedi ennill Cynghrair Pencampwyr UEFA gyda Real Madrid bedair gwaith, gan gynnwys yng Nghaerdydd yn 2017.

Llun o Geraint Thomas yn beicio cyda tri beiciwr o'r un tîm tu nôl iddo

Geraint Thomas

Gwersi llwyddiannus

Ac nid yr ysgolion yn unig sy’n datblygu sêr y dyfodol, mae prifysgolion y ddinas wrthi hefyd. Roedd Lyn ‘the Leap’ Davies yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd pan y llamodd i’r aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo ym 1964, a dyma hefyd ble roedd Syr Gareth Edwards yn fyfyriwr Addysg Gorfforol cyn dod yn un o’r chwaraewyr rygbi gorau erioed. Os ymwelwch chi â champws Met Caerdydd heddiw mae’n bosib iawn y gwelwch y pencampwr Paralympaidd Aled Sion Davies yn hyfforddi ar gyfer ei dafliad fuddugol nesaf.

Daeth y Farwnes Tanni Grey-Thompson, gafodd ei geni yng Nghaerdydd, yn un o’r athletwyr Paralympaidd gorau erioed, gan ennill 11 medal aur. Mae Colin Jackson, y cyn-bencampwr byd a chyn-ddaliwr record byd 110m dros y clwydi, hefyd yn un o feibion mwyaf llwyddiannus y ddinas. Ac yng Ngemau Olympaidd Rio 2016 cipiodd y forwraig o Gaerdydd, Hannah Mills, y fedal aur am hwylio.

Mae Caerdydd yn gartref i chwaraeon tîm elît; tîm hoci iâ’r ddinas, Diawled Caerdydd, yw’r gorau ym Mhrydain; enillon nhw ddau dlws yn nhymor 2017-18 tra’n chwarae yng Nghanolfan Iâ Cymru ym Mae Caerdydd.

Dinas y bêl gron

Ganwyd rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, sydd wedi ennill Cynghrair Pencampwyr UEFA ddwywaith gyda Manchester United, yng Nghaerdydd. Ganwyd yr enwog John Toshack yn Nhreganna, llai na milltir i ffwrdd o Stadiwm Dinas Caerdydd ble mae’r Adar Gleision bellach yn chwarae, a dyma oedd y lleoliad ar gyfer Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr y Merched UEFA yn 2017. Arwyddodd Aaron Ramsey i Arsenal o Gaerdydd, a chwaraeodd yr anfarwol John Charles dros Gaerdydd yn y 1960au.

Llun o Ashley Williams, Gareth Bale a Chris Gunter yn eistedd ar fws heb do

Ashley Williams, Gareth Bale a Chris Gunter

A’r seren ddiweddaraf, a’r disgleiriaf o’r rhain yw Gareth Bale. Yn 2016 roedd Bale yn canu 'Please don’t take me home' gyda miloedd o gefnogwyr Cymru wrth i’r tîm geisio aros yn Ffrainc yn ddigon hir i gyrraedd gêm derfynol Ewro 2016. Ond yn 2017 daeth Gareth Bale adref gyda'i gyd-galácticos o Real Madrid i ennill gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn ei ddinas enedigol.

Straeon cysylltiedig