Dyma Nick Pole, o BikePark Wales, yn dweud wrthym am rai datblygiadau newydd sy’n agor y ganolfan llwybrau chwedlonol i gynulleidfa newydd sbon.

BikePark Wales, Coed Gethin, Merthyr Tudful

Beth yw BikePark Wales?

Mae pobl yn aml yn gofyn ‘Sut ydych chi’n diffinio parc beiciau?’. Mae’n gwestiwn rhyfeddol o anodd i’w ateb; mae sawl ffactor yn creu’r ymdeimlad unigryw hwnnw sydd gan barc beicio da. Wrth gwrs, yn bennaf oll mae’r llwybrau eu hunain, ac mae yna amrywiaeth ac ansawdd o’r radd flaenaf yn BikePark Wales. Ategir hyn wedyn gan ein cyfleuster codi, Caffi Coetir, gwasanaeth llogi a siop feiciau. Gallwch hyd yn oed drefnu hyfforddiant i ddechrau meithrin eich sgiliau neu wella ar eich lefel bersonol.

Rhywbeth at ddant pawb

Rydyn ni bob amser yn ychwanegu llwybrau newydd. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gyffrous iawn am Kermit, ein llwybr gwyrdd newydd sy’n addas i feicwyr newydd. Mae’n rhedeg i’r dde o frig y safle ac yn defnyddio ein gwasanaeth codi, yn union fel ein llwybrau mwy heriol. Lle’r oedd gennym lwybr gwyrdd llawer llai ar y gwaelod o’r blaen, mae’r llwybr newydd hwn yn rhoi blas go iawn i chi o’r hyn sydd gan BikePark Wales i’w gynnig. Gall hyd yn oed dechreuwyr ddefnyddio’r cyfleuster codi a chael y profiad llawn. Mae bod yn hygyrch i bob math o feicwyr yn un o’r prif bethau rydyn ni’n canolbwyntio arnyn nhw. Rydyn ni’n croesawu pobl sy’n gallu reidio beic ond sydd efallai ddim yn ystyried dod i rywle fel BikePark Wales.

Cael y wybodaeth

Rydyn ni hefyd yn cynnig pecynnau i wneud pethau hyd yn oed yn haws. Mae gennym becyn Tocyn i Reidio, lle rydych chi’n dod i’r lleoliad mewn dillad nad oes ots gennych chi eu bod yn mynd yn fudr, a byddwn ni’n gofalu am y gweddill. Cewch logi beic gyda’r holl offer amddiffynnol – ynghyd â sesiwn ddosbarth ragarweiniol lle bydd eich gwesteiwr yn eich arwain drwy’r hyn y byddwch chi’n ei wneud. Yna, bydd eich gwesteiwr yn mynd â chi ymlaen i’r llwybrau am ychydig o rediadau, gan roi digon o awgrymiadau wrth i chi feicio.

Yn draddodiadol, mae ein cwsmeriaid craidd wedi bod yn feicwyr mynydd profiadol sy’n dod i’r lleoliad ac yn rhoi cynnig ar y llwybrau ar unwaith, rhywbeth a all godi ofn ar bobl sy’n newydd i’r gamp. Rydyn ni bellach yn ceisio ehangu pethau fel bod lle i feicwyr profiadol a llai profiadol fel ei gilydd.

Mae hyn wedi cael effaith fawr ar y parc yn barod. Pan fyddwch chi’n dod yma nawr, fe welwch chi gymysgedd go iawn o feicwyr ymroddedig ochr yn ochr â theuluoedd a phlant. Mae wedi bod yn wych gweld sut mae pethau wedi newid. Rydyn ni am ei wneud yn lle cynhwysol i bawb.

 

Dau feiciwr mynydd mewn coedwig dywyll.

BikePark Wales, Coed Gethin, Merthyr Tudful

Beicio mynydd wedi’i wneud yn hawdd

Y peth gorau am BikePark Wales yw y gall unrhyw un, o fewn rheswm, ddod a chael diwrnod gwych yn y mynyddoedd waeth beth fo’r tywydd. Mae’r cyfleuster cyfan wedi’i gynllunio o amgylch hygyrchedd, gyda phob math o lwybrau ar gyfer pob math o feicwyr (mae llawer ohonyn nhw wedi’u creu ar gyfer mwynhad ym mhob tywydd hefyd). Ochr yn ochr â Kermit, mae’r Badgers Run, sef llwybr dolennog 1km o hyd drwy goetir llydanddail ar dir cymharol lyfn a gwastad, sy’n ddelfrydol i deuluoedd.

Mae yna rannau o’r llwybr sy’n llifo am lawr er mwyn rhoi blas o’r hyn sydd ar gael yn uwch i fyny’r mynydd. Wrth ymyl mynedfa’r llwybr teuluol ac yn syth o flaen y Caffi mae ein ‘pump trail’. Gall pawb, o blentyn tair oed ar feic cydbwysedd i feiciwr naid baw proffesiynol, fwynhau’r llwybr dolennog hwn sydd â’r nod o wella sgiliau beicio technegol.

Drama’r Disgyn

Mae’r llwybrau ar y mynydd ei hun yn her i hyd yn oed y beicwyr mwyaf hyderus. Mae'r llwybrau hyn wedi'u graddio o las i ddu yn yr un modd â rhediad sgïo yn yr Alpau, felly mae'n hawdd dewis llwybr sy'n addas i chi. Mae gennym rai o'r llwybrau disgynnol hwyaf yng Nghymru, a bydd llawer ohonyn nhw yn cymryd hyd at 15 munud i’w teithio, hyd yn oed i feiciwr cymwys. Ym mhen mwy difrifol y sbectrwm, mae'r llwybrau coch a du yn BikePark Wales yn hynod heriol gyda neidiau a dropiau mawr, gwreiddiau a chreigiau.

I fyny fry

Mae dwy ffordd o gyrraedd pen y bryn yn BikePark Wales, sydd unwaith eto'n un o'r pethau sy'n helpu i greu'r ymdeimlad unigryw hwnnw sydd gan barc beicio. I'r rhai sy'n dymuno herio eu ffitrwydd, bydd llwybr un trac yn mynd â chi i ben Mynydd Gethin ar 491 metr, gan ddefnyddio nerth eich coesau eich hun. Gall beicwyr sydd am gynyddu’r hwyl a chanolbwyntio ar ddisgyn yn unig, ddefnyddio'r gwasanaeth codi sy'n cludo beicwyr i gopa'r bryn yn ddiogel ac yn gyfforddus. Gall beicwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth codi fwynhau hyd at 15 rhediad i lawr allt mewn diwrnod.

Y pecyn cyfan

Ynghyd â’r uchod, mae gan y lle fywiogrwydd â phositifrwydd na all beidio â rhoi gwên ar eich wyneb. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi ychwanegu canolfan ymwelwyr newydd ar gyfer cofnodi presenoldeb a llogi beiciau, sy’n caniatáu i bawb fynd allan ar y llwybrau yn llawer cynt. Rydyn ni hefyd wedi tirlunio’r ardal gyfan o amgylch y ganolfan a Chaffi Coetir, sy’n golygu y gall ymwelwyr ymlacio gyda darn o gacen a phaned (neu gwrw!) ar ôl diwrnod gwych o feicio.

Beiciwr mynydd gyda helmed yn gwneud gwaith ar ei beic.
Llun agos o feic mynydd a helmed yn hongian o gyrn y beic

BikePark Wales, Coed Gethin, Merthyr Tudful

Straeon cysylltiedig

Dau feiciwr yn beicio i ffwrdd o'r camera i lawr y trac

Gwibio ar i waered

Caiff beicwyr mynydd profiadol fodd i fyw ym mynyddoedd Cymru. Buan y gwêl Iestyn George fod croeso i feicwyr beth bynnag eu hoedran a'u gallu.

Pynciau: