Ar drên, ar fôr

Mae gorsaf Caergybi’n cysylltu â holl ddinasoedd mawr Canolbarth a Gogledd Orllewin Lloegr, ac ymhen llai na phedair awr, gall trên uniongyrchol fynd â chi i orsaf Euston yn Llundain, gan alw ym mhob un o brif gyrchfannau glan-môr arfordir y gogledd. Mae hi’n haws fyth ar y môr: Caergybi yw prif borthladd y DU i Iwerddon, ac mae Stena Line ac Irish Ferries yn hwylio rhyw 10 gwaith y dydd rhyngddynt, a’r cyflymaf yn cymryd llai na dwy awr.

Ar droed

Ansawdd aruthrol dda ac amrywiaeth enfawr y cyfleoedd i gerdded yw’r hyn sy’n dod â llawer o ymwelwyr i Ogledd Cymru. Mae Eryri’n dynfa, wrth gwrs, gan gynnig popeth o dro bach hamddenol i’r teulu i deithiau cerdded heriol iawn – sy’n paratoi pobl ar gyfer dringo Everest. Gallwch hefyd fwynhau pleserau mwynach Bryniau Clwyd. Mae Llwybr Arfordir Cymru’n rhedeg ar hyd arfordir y gogledd ac o gwmpas Môn. I wneud cylchdaith o gwmpas Cymru, gallwch gyfuno Llwybr yr Arfordir â Llwybr Clawdd Offa, sy’n dechrau ym Mhrestatyn ac yn mynd yr holl ffordd i Gas-gwent.

Llun ar ddiwrnod disglair gyda golygfeydd o'r Wyddfa o'r mynyddoedd a'r llynnoedd.

Yr Wyddfa

Ar ddwy olwyn, ar yr heol

Yn Eryri y magwyd archdderwydd seiclo Prydeinig modern, Syr Dave Brailsford, ac mae Ffordd Brailsford yn rhedeg ar hyd ei hoff heolydd i seiclo pan oedd yn fachgen. Gellir dewis opsiynau 50 a 75-milltir (80 a 120km). Mae Ynys Môn yn ddewis gwell os nad ydych chi’n or-hoff o seiclo bryniau, tra bod Llwybr Arfordir Cymru’n addas ar gyfer rhai ar gefn beic ar hyd y rhan fwyaf o arfordir y gogledd.  

Cwpwl yn beicio ar hyd llwybr wrth y môr

Y Cob ym Malltraeth, Lon Las Cefni, Ynys Môn

Ar ddwy olwyn, drwy'r mwd

Mae cornel ogledd ddwyreiniol Cymru’n cynnig peth o’r dirwedd orau ar gyfer beicio mynydd ym Mhrydain gyfan, ynghyd â’r gallu i wneud yn fawr ohono. Gallwch feicio ar hyd mynyddoedd, llynnoedd, fforestydd a dyffrynnoedd, gan herio dringfeydd serth, traciau sengl technegol a disgyniadau ‘calon-yn-y-gwddf’. Mae Coed Llandegla’n lle da i ddechrau arni, gyda lle i logi beiciau, a hyfforddiant i ddechreuwyr, ynghyd â llwybrau du ac ardaloedd reidio rhydd i arbenigwyr.

Beicio Mynydd, Coed Llandegla, Gogledd Cymru

Cwch araf

Mae Camlas Llangollen yn llifo am 46 milltir (74km) o Swydd Gaer drosodd i Gymru, ond dim ond yr 11 milltir (18km) olaf rhwng y Waun a Llangollen a ddynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Yma, mae’r gamlas yn croesi dros Draphont Ddŵr Pontcysyllte, ‘nant yn yr awyr’ 38m uwchlaw Afon Dyfrdwy sy’n llifo oddi tani. Mae Llangollen hefyd yn adnabyddus am yr Eisteddfod Ryngwladol flynyddol, cynulliad digymar o gerddorion o bob cwr o’r byd.

Cwch camlas lliwgar yn Llangollen.

Traphont Pontcysyllte, Camlas Llangollen

Straeon cysylltiedig