Mae digonedd o bleserau ar hyd Ffordd y Gogledd. Mae’r man mwyaf rhamantus yng Nghymru, orielau celf anhygoel a halen gourmet i gyd ar y fwydlen. Rydyn ni wedi eu rhoi mewn trefn o'r dwyrain i'r gorllewin, ond chi sydd i ddewis a dethol trefn y daith! 

Cestyll y Fflint a Rhuddlan

Mae Ffordd y Gogledd yn gartref i nifer o’n cestyll mwyaf trawiadol – Conwy a Biwmares yn arbennig. Ond mae nifer o rai llai yn cael llawer llai o ymwelwyr ac maen nhw'n llawn awyrgylch. Dinistriwyd Castell y Fflint yn rhannol gan fyddin Cromwell yn y 1640au, ond mae digon ar ôl i’w fwynhau ac mae’n fan picnic hyfryd ar Aber Afon Dyfrdwy. Mae Castell Rhuddlan yn un arall; casgliad hanesyddol o borthdai a thyrau yn edrych dros ddyfroedd afon Clwyd. Mae'n werth crwydro'r dref hefyd.

Silwetau castell.

Castell y Fflint

Ffynnon Gwenffrewi

Safle hanesyddol unigryw anarferol arall ar hyd Ffordd y Gogledd yw Ffynnon Gwenffrewi. Mae wedi bod yn fan o bererindod Gristnogol ers canrifoedd. Mae'n berffaith ar gyfer heddwch a myfyrdod gyda chrypt addurnedig o'r 16eg ganrif wedi'i lenwi â dyfroedd iachusol. Mae yna amgueddfa ddiddorol iawn hefyd. Mae’r ymwelwyr blaenorol yn cynnwys y Brenin Charles fel Tywysog Cymru, Rhisiart Lewgalon ac Iago II.

Cwpl yn edrych i’r ffynnon yng Nghapel Santes Gwenffrewi.
Y llwybr gyda gwair ar y naill ochr iddo, yn arwain at Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon.

Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon

Conwy

Mae Conwy yn gartref i gastell gwirioneddol ysblennydd sy'n rhaid ei weld. Ond chwiliwch am rai mannau llai poblogaidd hefyd. Mae tŷ lleiaf Prydain ar lan yr afon ond mae pobl yn aml yn cerdded heibio heb sylwi arno. Mae Quay House yn mesur 3.05m x 1.83m (10 x 6tr) a’r unigolyn olaf i fyw ynddo oedd Robert Jones, a oedd yn 1.905m (6 troedfedd 3 modfedd) o daldra – am wasgfa! Os oes gennych chi hyd yn oed y dant melys lleiaf, ewch i Baravelli’s Artisan Chocolatiers ar gyfer danteithion siocled tu hwnt o flasus. Dylai’r rhai sy’n hoff o hanes hefyd ymweld â Phlas Mawr. Dewch i weld sut roedd y masnachwr cyfoethog Robert Wynn yn byw yn y tŷ addurnedig yma o oes Elisabeth.

pont yn arwain at gastell.
Hen adeilad carreg gwyn gyda choeden ac awyr las.
Golygfa o’r tu allan o dŷ bach coch.

Castell Conwy, Tŷ lleiaf Prydain, Cartref Oes Elisabeth Plas Mawr

 

 

 

 

Bangor

Mae dinas hynaf Cymru yn llawn atyniadau diddorol gyda chaffis braf i'w mwynhau. Gallwch grwydro Castell Penrhyn, plasty anferth a godwyd gan farwn llechi cyfoethog. Yna ewch am dro ar hyd y pier. Pier Garth yw un o'r harddaf yng Nghymru gyda siopau bwtîc a chaffis yn ei giosgau Fictoraidd. Gorffennwch trwy bicio i amgueddfa ac oriel gelf Storiel.

Darllen mwy: Pethau i’w gwneud ym Mangor

Sosban a’r Hen Gigydd

Nid oes gan y cogydd Stephen Stevens yn y Sosban a’r Hen Gigydd ym Mhorthaethwy fwydlen. Ac mae pryd o fwyd yma yn daith gastronomig â seren Michelin. Rydych chi’n cael cyfres o brydau eithriadol o flasus y mae Stephen yn eu coginio o’ch blaen gan ddefnyddio’r cynnyrch lleol gorau sydd ar gael ar y diwrnod. Mae angen archebu o leiaf ychydig fisoedd ymlaen llaw.

Darllen mwy: Llefydd gwych i gael bwyd ar Ffordd y Gogledd

Pelen o sorbet ar ben llysiau.
Cogydd yn paratoi bwyd mewn cegin y tu mewn i fwyty.

Y cogydd Stephen Stevens yn brysur yn y Sosban a’r Hen Gigydd, ac un o’i brydau anhygoel

Llanfairpwllgwyngyll

Dyfais i ddenu ymwelwyr oedd enwi pentref Llanfairpwllgwyngyll â’r enw hiraf am le ym Mhrydain. Mae’r ddyfais yn dal i weithio, o weld cynifer o ymwelwyr sy’n dod yma i gael tynnu llun gydag arwydd y rheilffordd. Cymerwch anadl ddofn, a gyda’n gilydd… Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch!

 

Arwydd Llanfair PG ar blatfform mewn gorsaf reilffordd.

Llanfairpwllgwyngyll

Hooton's Homegrown

Yn Hooton's Homegrown mae'r teulu Hooton wedi bod yn tyfu ffrwythau a llysiau gwych ac yn magu da byw ers dros 50 mlynedd. Mae eu siop fferm yn baradwys o fwyd gyda phob math o basteiod, siytnis, ffrwythau a llysiau a chig cartref. Maen nhw hefyd yn gwerthu pethau blasus gan gynhyrchwyr lleol eraill fel cawsiau o Gaws Rhyd y Delyn a’r Cwt Caws.

Halen Môn

Bu i bâr o fyfyrwyr Prifysgol Bangor gwympo mewn cariad â Môn (ac â’i gilydd), gan ffermio wystrys yn Afon Menai a sefydlu Sw Môr Môn. Fe sylwon nhw fod eu ceffylau môr – sy’n enwog am fod yn arbennig o ffyslyd ynghylch purdeb dŵr – yn ffynnu yma, a dechreuodd y ddau ystyried tybed a fyddai’r un dyfroedd glân yn gallu creu halen o fri. Gwyddoch weddill y stori… Bellach, Halen Môn yw un o brif halen y byd, ac adroddir stori’r cwmni y tu ôl i’r llenni mewn modd rhagorol yn eu canolfan ymwelwyr.

 

Siop Halen Môn, Ynys Môn.
Llun o'r môr gyda choed a bryniau yn y pellter.

Siop Halen Môn

Ynys Llanddwyn

Santes Dwynwen yw ein nawddsant cariadon, ac rydym yn ei dathlu ar 25 Ionawr. Roedd hi'n dywysoges o'r bumed ganrif a sefydlodd leiandy ar benrhyn bach Traeth Llanddwyn, sydd bellach â dau oleudy, capel adfeiliedig a sawl ffynnon. Mae'n llecyn rhamantus iawn. Yn gefnlen i’r traeth mae gwarchodfa natur Cwningar Niwbwrch a choedwig sy’n gartref i wiwerod coch a chlwyd enfawr o gigfrain.

Darllen mwy: Cwympwch mewn cariad ar Ddiwrnod Santes Dwynwen

Traeth gydag oleudy

Ynys Llanddwyn

Orielau rhagorol

Mae lleoliadau glan môr wedi denu cymunedau o artistiaid erioed, ac yn eu sgil daeth orielau. Ceir sawl oriel o gwmpas arfordir gogledd Cymru, ond dyma dair o’r goreuon: MOSTYN yn Llandudno yw un o’n canolfannau celf weledol cyhoeddus gorau. Sefydlwyd yr Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy ym 1882 fel canolfan ragoriaeth artistig. Gan Oriel Môn y mae’r casgliad mwyaf o waith Syr Kyffin Williams, sydd i'w gweld ochr yn ochr ag arddangosfeydd cyfoes ac amgueddfa hanes a diwylliant Môn.

Darllen mwy: Orielau celf yng Nghymru

Straeon cysylltiedig