Mae’r ffordd hon yn cynnwys holl ystod tirwedd Cymru, ei hanes a’i diwylliant. Dyma rai o uchafbwyntiau'r siwrne...

Llandudno

Mae ‘Brenhines y Trefi Glan Môr’ yn lle da i gychwyn ar unrhyw daith, ond peidiwch â brysio o Landudno ar ormod o ras. Dyma gyrchfan ddigymar o Oes Fictoria a’r cyfnod Edwardaidd, gyda phier a phrom trawiadol. O Ben y Gogarth y cewch chi’r golygfeydd gorau, a gallwch fynd i ben y graig galchfaen enfawr mewn tram neu gar cebl. Ar y copa ceir canolfan ymwelwyr, gwarchodfa natur a chwarel gopr hynafol iawn, ac mae’r llethrau dwyreiniol yn cysgodi canolfan sgïo a pharc Y Fach (Happy Valley), ble gallwch ddechrau dilyn Llwybrau Alis yng Ngwlad Hud yn ôl drwy’r dref.

Gardd Bodnant

Fe wnaethon ni ofyn i’r Tywysog Charles enwi’i hoff ardd un tro, ac yn ei farn ef mae Bodnant yn ‘un o drysorau cenedlaethol Cymru’. Yn y rhan uchaf, o gwmpas Neuadd Bodnant, ceir gerddi teras a lawntiau anffurfiol, ac mae’r rhan isaf, Y Glyn, yn gartref i ardd wyllt ryfeddol. 

 Pafiliwn wedi'i adlewyrchu yn y pwll mawr yn yr ardd, gyda choed yn y cefndir.
Llun agos o flodau porffor a choch

Gardd Bodnant, Conwy

Blaenau Ffestiniog

Mae rhai o’r chwareli’n dal i weithio yn hen ‘brifddinas llechi’r byd’, ond aeth Blaenau Ffestiniog ati i ailddyfeisio’i hun wrth i’r diwydiant ddirywio, er mwyn bod yn ganolfan antur heb ei hail. Gall beicwyr mynydd sgrialu i lawr y llethrau yn Antur Stiniog, wrth i bobl rasio ar hyd gwifrau zip uwchlaw. Yn ogofeydd enfawr y chwareli llechi tanddaearol, ceir mwy fyth o barthau zip a Bounce Below - canolfan afreal: haenau o rwydi cargo bownsiog â llithrennau ac ysgolion yn eu cysylltu. Er mwyn deall y cyd-destun hanesyddol, ewch ar daith danddaearol o gwmpas chwarel lechi o Oes Fictoria.

Zip World Titan, Blaenau Ffestiniog, Nordwales.

Zip World Titan, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd

Yr Ysgwrn

Efallai nad yw pawb yn gwybod yn syth pwy yw'r bardd-filwr Ellis Evans – ond mae ei ffug-enw Hedd Wyn yn holl-gyfarwydd. Lladdwyd y bugail o Drawsfynydd ym mrwydr Passchendaele rai wythnosau cyn y dylai fod wedi ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1917. Bellach mae’r Ysgwrn, fferm ei deulu, yn ganolfan ymwelwyr sy’n cynnwys arddangosfeydd am ei fywyd a’i etifeddiaeth, y Gymraeg a’i diwylliant, y traddodiad barddol, hanes gwledig a’r Rhyfel Byd Cyntaf. 

Aberhonddu

Mae Aberhonddu’n cynnwys popeth y byddech chi’n disgwyl ei weld mewn tref farchnad gwerth ei halen: mae digonedd o dafarndai croesawgar, orielau, caffis a llawer o siopau annibynnol ar hyd ei strydoedd Sioraidd hardd. Yn ogystal, ceir yma eglwys gadeiriol o’r 12fed ganrif, amgueddfa filwrol a gŵyl jazz flynyddol. Gallwch grwydro allan o’r dref gan ddefnyddio sawl dewis di-gar: mae camlas Mynwy ac Aberhonddu’n llifo am 35 milltir (56km) drwy’r Bannau bendigedig, tra bo Llwybr Cerdded a Beicio Taf yn ymlwybro 55 milltir (88km) yr holl ffordd i’r môr ym Mae Caerdydd.

Llun o fwyty gyda waliau coch, a bryniau gwyrdd yn y cefndir

The Felin Fach Griffin, ger Aberhonddu

Dan-yr-Ogof

Mae Dan-yr-Ogof canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn un o brif atyniadau Cymru.Dewch wyneb yn wyneb â dros 200 o fodelau maint llawn o ddeinosoriaid,  Dim ond angen un tocyn i weld hyd at 10 atyniad!

Cerflun deinosor yn Dan yr Ogof.

Dan-yr -Ogof, Abercraf

Taith Pyllau Glo Cymru

Cwm Rhondda yw ardal lofaol enwocaf y byd. Roedd 53 o byllau yn arfer bod ac mae hwn – pwll glo Lewis Merthyr – wedi ei gadw fel Taith Pyllau Glo Cymreig ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Mae'r amgueddfa hanes yma yn ail-greu caledi a chyfeillgarwch y gymuned lofaol yn fyw. Mae’r tywyswyr yn gyn-lowyr ac, yn y caffi, mae’r bwyd yn wir Gymreig-Eidaleg: mae cymuned Eidalaidd fawr wedi bod yma ers dros ganrif.

Cyn-löwr yn gwenu ar y camera gyda phwll glo twr y tu ôl iddo.

Profiad Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, De Cymru

Castell Caerffili

Dyma gastell mwyaf Cymru, ac mae’n cynnwys popeth ddylai fod mewn castell: tyrrau mawrion, pont godi, magnelau sy’n gweithio, a’r cyfan wedi’i amgylchynu gan yr amddiffynfeydd dŵr mwyaf cymhleth ym Mhrydain. Mae atyniadau mwy diweddar yn cynnwys cyffro Ffau'r Dreigiau a Drysfa Gilbert. Adeiladwyd Castell Caerffili’n wreiddiol gan arglwyddi Normanaidd yn y 1200au, a chafodd ei adnewyddu i’w ysblander presennol gan sawl Ardalydd Bute yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. 

Golygfa o du allan castell wedi'i amgylchynu â dŵr

Castell Caerffili

Y Bathdy Brenhinol

Cafodd pob darn o arian sydd yn eich poced, eich pwrs a’ch cadw-mi-gei ei wneud yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant. Dyna i chi rhyw 30,000,000,000 o ddarnau o arian, sy’n werth tua £4.6bn. Yn ogystal â bathu arian Prydain yma, maen nhw hefyd yn gwneud arian a medalau ar gyfer dwsinau o wledydd eraill hefyd. Cewch gipolwg diddorol iawn ar yr holl broses ar daith y tu ôl i’r llenni ac yn y ganolfan ymwelwyr.

Darnau arian newydd sbon mewn cist bren

Profiadau yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd

Sain Ffagan

Dyma un o amgueddfeydd awyr-agored gorau’r byd. Symudwyd dros 40 o adeiladau gwreiddiol, yn dyddio o oes y Celtiaid tan yr 20fed ganrif, ac yn amrywio o gapeli a ffermydd i dafarn a sefydliad y gweithwyr, o bob rhan o Gymru i’r fan hon – eu cartref newydd yw gerddi plas bach o Oes Elisabeth I ar gyrion Caerdydd. Mae’r adeiladau’n lleoedd diddorol eithriadol i chwilota ynddynt, ond sgiliau’r crefftwyr traddodiadol, heb sôn am yr anifeiliaid fferm brodorol yn y caeau a’r closydd, sy’n dod â’r lle mor llachar o fyw. A hyn oll bellach yn cael ei ddathlu mewn orielau ac arddangosfeydd newydd sbon - a'r cyfan, fel ym mhob un o’n Amgueddfeydd Cenedlaethol, yn rhad ac am ddim. 

Golygfa o y tu mewn i hen gapel
Golygfa agos o ffenestri a muriau coch Ffermdy Kennixton, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan

Profiadau yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd

Caerdydd

Daw llawer o bobl i Gaerdydd ar gyfer gemau mawr yn Stadiwm Principality. Mae diwrnod neu benwythnos cofiadwy yn y brifddinas yn dechrau yng Nghastell Caerdydd, ble gwelir waliau Rhufeinig, tŵr Normanaidd a phlasty moethus o Oes Fictoria oll ar yr un safle, ar gyrion Parc Bute. Ar draws y ffordd, mae gan yr Amgueddfa Genedlaethol gasgliadau hanes naturiol a chelfyddyd o’r radd flaenaf o dan yr un to - a digon o arddangosfeydd dros dro ar gyfer ymwelwyr rheolaidd hefyd. Anelwch tua’r de a dyma chi yng nghanol strydoedd siopa di-gar y ddinas wrth gwrs, o fodernrwydd anferth Canolfan Dewi Sant i’r arcêds Fictoraidd ac Edwardaidd deniadol. I lawr ym Mae Caerdydd, trawsnewidiwyd yr hen borthladdoedd glo gan lanfa smart - ac mae to copr Canolfan Mileniwm Cymru’n amlwg o bobman.

Tu allan Stadiwm Principality gyda'r Afon Taf yn llifo heibio

Stadiwm Principality, Caerdydd

Straeon cysylltiedig