Mae Cymru'n ddewis amlwg ar gyfer lleoliadau ffilmio allanol syfrdanol, yn cynnwys ein bryniau gwyrdd a'n traethau tywodlyd, ond mae dinasoedd Cymru hefyd yn gefndir ar gyfer nifer o gynhyrchiadau ffilm a theledu. Roedd y BBC mor hoff o'r lle fel iddynt adeiladu stiwdios newydd BBC Cymru yng nghanol Bae Caerdydd, ble maent yn cynhyrchu ffefrynnau megis Doctor Who, Casualty, Sherlock...a Pobol y Cwm, wrth gwrs!