Cymerwch ychydig o amser i baratoi cyn mynd allan i fwynhau arfordir a chefn gwlad Cymru i wneud yn siŵr bod eich antur yn un cofiadwy a diogel. Dyma ychydig o gyngor gan yr RNLI ac ymgyrch Adventure Smart Cymru i’w ystyried cyn cychwyn ar eich taith.

Cadw’n ddiogel ar y mynyddoedd

Cadwch olwg y tywydd bob amser

Cadwch olwg ar ragolygon y tywydd cyn i chi gychwyn a chofiwch wirio’r amodau ar gyfer gwahanol rannau o'ch llwybr. Paratowch am dywydd cyfnewidiol. 

Cariwch ffôn symudol llawn barti

Mae cario banc pŵer yn syniad da hefyd. Cofiwch gadw rhywfaint o fatri rhag ofn y bydd angen i chi wneud galwad brys.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â ble rydych chi a ble rydych chi'n mynd

Os ydych chi'n defnyddio ap ar eich ffôn lawrlwythwch eich llwybr cyn i chi gychwyn a chariwch fap papur bob amser gyda'ch llwybr wedi'i farcio. Unwaith y byddwch chi'n siŵr o'r llwybr y mae angen i chi ei ddilyn, peidiwch â'i adael. Os ydych chi ar goll, ewch yn ôl ar hyd y llwybr i'r man cyfarwydd diwethaf.

Gwisgwch esgidiau cerdded

Gwnewch yn siŵr eu bod yn ffitio'n dda ac yn gyfforddus. Dewiswch esgidiau addas i’ch steil o gerdded a'r dirwedd.

Arhoswch yn gynnes ac yn sych, cariwch haenau ychwanegol a dillad glaw

Dechreuwch gyda haen anadladwy a haen ganol wedi’i inswleiddio. Gellir gwisgo trowsus gwrth-ddŵr dros drowsus cerdded anadladwy. Cofiwch eich siaced wrth-ddŵr. 

Pedair merch ar ddechrau llwybr mynydd.

Pen y Fan, Bannau Brycheiniog, y Canolbarth

Y Cod Cefn Gwlad

Mae’r Cod Cefn Gwlad yno i helpu pawb fwynhau’r awyr agored yn ddiogel, i ddangos parch i’n gilydd, gwarchod yr amgylchedd, ein bywyd gwyllt a’n tirwedd hardd.

Gellir gweld codau eraill ar gyfer gweithgareddau sy’n cynnwys mynd â chŵn am dro, chwaraeon dŵr a physgota ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cadw’n ddiogel ar yr arfordir

Dewiswch draeth gydag achubwyr bywyd

Mae achubwyr bywyd yr RNLI yn monitro amodau'r môr, yn cynnig cyngor diogelwch ac yn cadw llygad ar bawb a phopeth. Dewch o hyd i restr o holl draethau achubwyr bywyd yr RNLI ar eu gwefan.

Edrychwch ar amseroedd y llanw cyn cychwyn

Gall y llanw ddod i mewn yn hynod o gyflym. Gwiriwch amseroedd y llanw bob amser cyn cychwyn. Chwiliwch am arwyddion diogelwch a ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau mewn argyfwng.

Ystyriwch yr amodau, y tywydd a’ch offer

Gwisgwch siwt wlyb o drwch priodol ar gyfer y tymheredd a'r math o weithgaredd rydych chi'n ei wneud. Gwisgwch siaced achub neu siaced hynofedd (ar gyfer padlfyrddio, caiacio, cychod ac ati) a chofiwch gario’r dull priodol o alw am help gyda chi.

Byddwch yn barod

Cofiwch bacio bwyd a diod i sicrhau bod gennych ddigon o egni. Paciwch eli haul, het haul a sbectol haul. Peidiwch ag anghofio mynd â'ch sbwriel gyda chi. 

Dau berson yn cerdded ar draeth gydag arwydd diogelwch melyn ar y traeth yn y cefndir

Gwybodaeth am ddiogelwch traethau ar draeth Bae Whitmore, Ynys y Barri, Bro Morgannwg, De Cymru

Cadw’n ddiogel ger y dŵr

Mae llawer o deuluoedd wrth eu bodd ar y traeth – mae adeiladu cestyll tywod, cael hwyl yn y môr a darganfod pyllau creigiau oll yn rhan o antur glan-môr go iawn. Cyn i chi ymweld â thraeth, ystyriwch unrhyw ddarpar beryglon – fel deufor-gyfarfod (rip tide) a cherrynt cryf – a allai fod yno. Os yw’n bosib, dewiswch draeth sydd ag achubwyr bywyd ar ddyletswydd. Os oes ci gyda chi, cofiwch fod rhai traethau’n cyfyngu’r hawl i fynd â chi yno dros yr haf.

Gall mynd i mewn i’r dŵr yn gyflym arwain at sioc dŵr oer – cofiwch Arnofio i Fyw os byddwch yn mynd i drafferth: Ymlaciwch, rhowch eich pen yn ôl gyda’ch clustiau o dan y dŵr, defnyddiwch eich dwylo i’ch helpu i arnofio, a rheolwch eich anadlu.

Os byddwch yn dod o hyd i rywun mewn trafferth cofiwch:

1. peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl drwy fynd i mewn i’r dŵr, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân
2. esboniwch wrthynt sut i Arnofio i Fyw
3. taflwch rywbeth sy'n arnofio iddynt

Edrychwch ar dudalennau cyngor Diogelwch ar y Traeth yr RNLI i gael cynghorion am gadw’n ddiogel a chael hwyl. Mae’r cyngor hefyd yn cynnwys sioc dŵr oer a beth i’w wneud os ydych chi, neu rywun arall, mewn perygl yn y dŵr.

Mae nofio mewn dŵr agored yn dod yn fwyfwy poblogaidd am ei fod yn dda i’ch iechyd a’ch lles yn ogystal â bod yn llawer o hwyl, ond mae’n wahanol iawn i nofio mewn pwll nofio. Bydd y dŵr yn llawer oerach, mae’n bosib y bydd yno beryglon cudd ac, ar yr arfordir, gallech wynebu peryglon deufor-gyfarfod a cherrynt. Rydyn ni’n argymell na ddylech chi byth nofio ar eich pen eich hun, eich bod yn dod o hyd i un o’r grwpiau nofio dŵr agored lleol niferus sydd gennym yng Nghymru, a’ch bod yn nofio yn un o gyfleusterau achrededig SAFE Cymru Nofio Cymru. Gellir cael mwy o wybodaeth ynghylch ble i fynd i nofio a sut i fod yn ddiogel ar wefan Nofio Cymru.

Llifogydd

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyngor ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd:

• Edrychwch os oes risg llifogydd yn yr ardal yr ydych yn ymweld â hi neu'n aros ynddi.

• Ydy'r ardal yn derbyn rhybuddion llifogydd am ddim? Byddwn yn cyhoeddi rhybudd os ydym yn disgwyl llifogydd i faes carafanau neu wersylla. Gallwch gofrestru, newid neu ganslo'r cyfrif rhybudd llifogydd ar-lein.

• Gwiriwch y rhagolygon 5 diwrnod ar gyfer yr ardal. 

• Nodwch rif y Llinell Llifogydd - 0345 988 1188 - rhag ofn bod angen gwybodaeth llifogydd byw arnoch. Mae'n wasanaeth 24 awr. 

• Mae rhai meysydd gwersylla a llety wedi datblygu cynllun llifogydd – gofynnwch cyn i chi gyrraedd neu ar ôl cyrraedd, fel eich bod yn gwybod a oes mannau ymgynnull neu arwyddion rhybuddion llifogydd ar y safle.

• Meddyliwch am sefyllfaoedd ‘beth os’ oes llifogydd ar y safle neu’r ffyrdd cyfagos – beth fyddech chi’n ei wneud a beth fyddai ei angen arnoch chi?

Mae mwy o wybodaeth a chyngor am ddigwyddiadau tywydd eithafol, gan gynnwys gwres mawr, oerfel a llifogydd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Diogelwch tân

Diogelwch wrth ddefnyddio barbeciws a thyllau tân

Peidiwch â chynnau tanau a chofiwch mai dim ond ble mae arwyddion yn dweud y gallwch mae hawl cynnau barbeciw.

Gall tanau fod yr un mor ddinistriol i fywyd gwyllt a chynefinoedd ag y maent i bobl ac eiddo.

Mae llawer o feysydd gwersylla yn caniatáu defnyddio stof nwy a barbeciws. Gall tanau agored gael eu cynnau ar rai safleoedd hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn:

• dod o hyd i safle gwastad ac addas i gynnau'r tân neu osod y barbeciw
• peidiwch â gadael barbeciw neu dân heb oruchwyliaeth
• cadwch blant, anifeiliaid anwes a gemau gardd i ffwrdd o'r barbeciw
• rhowch eich barbeciw allan bob amser, gwnewch yn siŵr bod y llwch yn oer a rhowch nhw mewn bin sbwriel
• peidiwch â chladdu barbeciw yn y tywod – gall rhywun sefyll arno a llosgi ei hun

Cadw’n ddiogel mewn llety gwyliau

Cysgu mewn mathau gwahanol o lety gwyliau yw un o’r pethau gorau am fod ar wyliau, ond fel pan fyddwch chi gartref, mae hi wastad yn syniad da cael cynllun dianc rhag ofn y bydd tân. Dylai llety hunanarlwyo a gwestai gael larymau tân a diangfeydd tân / llwybrau dianc wedi’u harddangos yn amlwg. Gwnewch yn siŵr bob tro eich bod chi’n gwybod beth yw eu gweithdrefnau diogelwch tân ar ôl i chi gyrraedd er mwyn i chi wybod beth i’w wneud mewn argyfwng.

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyngor defnyddiol ar gyfer diogelwch rhag tân mewn pebyll, carafanau ac yn gyffredinol.

Osgoi gwenwyn drwy garbon monocsid pan fyddwch ar wyliau

Nid oes gan garbon monocsid (CO) liw, arogl na blas. Gall gael ei greu pan fydd pren, olew, glo, nwy a golosg yn cael eu llosgi. Mae’n eithriadol o wenwynig i bobl ac anifeiliaid anwes, ac ymysg y symptomau mae: teimlo pwys, cael y bendro neu golli eich gwynt, neu lewygu. Gall ladd pobl.

Osgowch gael eich gwenwyno gan CO pan fyddwch ar wyliau drwy:

  • mynd â larwm CO gyda chi a’i ddefnyddio;
  • peidio byth â mynd â BBQ i’r tu mewn nac i mewn i babell na charafan; a
  • pheidio byth â defnyddio generadur dan do.

Gellir cael mwy o wybodaeth a chyngor ar dudalen we cyngor Carbon Monocsid Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cofiwch y cyngor Cysgu’n Fwy Diogel

Gwnewch yn siŵr fod y lle cysgu’n glir a gwastad, fel cot neu wely bach, nid soffa na chadair freichiau. Symudwch unrhyw deganau neu flancedi rhydd o’r ffordd;

  • rhowch eich babi i gysgu ar ei gefn; a
  • Rhannu gwely – ni ddylech chi rannu gwely os:
    • ydych chi wedi bod yn yfed alcohol yn ddiweddar;
    • ydych chi neu eich partner yn ysmygu;
    • ydych chi wedi cymryd cyffuriau sy’n eich gwneud yn gysglyd neu’n llai ymwybodol; ac
    • os cafodd eich babi ei eni cyn ei dymor neu’n fach iawn.

Mae gan The Lullaby Trust ragor o wybodaeth ynghylch cadw’r rhai bach yn ddiogel wrth iddyn nhw gysgu.

    Gwna addewid i Gymru

    Rydym wedi ymrwymo i gefnogi diogelwch ein cymuned a’r ymwelwyr sy’n cael croeso cynnes gennym bob blwyddyn. Rydym yn gwahodd pawb i wneud addewid i ofalu am ei gilydd ac am ein gwlad

    Gadewch i ni ddal ati i wneud y pethau bychain fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.

    Straeon cysylltiedig