Ble i fynd a beth i'w wneud

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion

Yn 75OC, cododd ymfudwyr o Rufain gaer fawreddog Isca yn lle rydym ni bellach yn ei adnabod fel Caerllion, Dyffryn Gwy. Dyma un o’r tair caer barhaol ym Mhrydain Rufeinig, a dyma ran bellaf teyrnas y Rhufeiniaid am ddwy ganrif. Mae Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion yn safle treftadaeth hygyrch amlsynhwyraidd, yn agos at Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, ac mae’n canolbwyntio ar un o hoff weithgareddau hamdden y Rhufeiniaid: mynychu’r baddondai cyhoeddus.

Pwll dan do gyda goleuadau a waliau cerrig

Baddonau Rhufeinig, Caerllion

Taith gerdded mynediad rhwydd Cas-gwent

Cas-gwent yw man cychwyn Llwybr Dyffryn Gwy, llwybr hardd 136 milltir sy’n dilyn trywydd Afon Gwy ar draws De a Chanolbarth Cymru. Gallwch grwydro’r dref, glannau’r afon a Chastell Cas-gwent gan ddilyn un o ddwy daith gerdded gylchol ar hyd llwybrau gwastad, addas ar gyfer coetsys.

Llun o gae a choed gyda thref y Gelli Gandryll yn y cefndir

Y Gelli Gandryll, Powys

Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful

Wedi ei addurno â thyrau a murfylchau, cafodd y plasty crand hwn ei godi yn gartref i berchennog cefnog y gwaith dur, William Crawshay. Bellach mae’n amgueddfa ac mae casgliadau Castell Cyfartha yn cynnwys ffrogiau Laura Ashley, y chwiban stêm cyntaf a chasgliad cain o lestri porslen. Mae mynediad i gadeiriau olwyn drwy ddrws ar ochr yr adeilad.

Llun o'r tu allan i Gastell Cyfarthfa

Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful

Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg

Caiff Plasty Dyffryn ei amgylchynu gan erddi sy’n cael eu hystyried y gerddi Edwardaidd harddaf yng Nghymru. Cafodd y gerddi eu dylunio gan Reginald Cory, casglwr planhigion a hoffai deithio’r byd, a Thomas Mawson, dylunydd gerddi enwog. Mae’r gerddi lliwgar a phoblogaidd hyn yn sicr yn denu ymwelwyr. Mae mynediad at ran fwyaf o’r safle yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, a gallwch eu llogi ymlaen llaw.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Mae toreth o arteffactau Rhufeinig o Isca a Burrium yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, sydd yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn neu i bramiau. Mae casgliad o wrthrychau cydio ar gael ar gais ar gyfer rhai sydd â nam ar eu golwg. Ymhlith uchafbwyntiau’r amgueddfa mae gemau wedi eu cerfio’n gain a ddarganfuwyd yn y baddonau Rhufeinig, llai na 150m i ffwrdd o’r amgueddfa.

Ble i aros

Best Western Heronston Hotel, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae gwesty cyfoes y Best Western Heronston Hotel rai munudau yn y car i ffwrdd o Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Mae mynediad heb risiau i’w gael er mwyn cyrraedd y dderbynfa sydd â system dolen sain symudol ar gyfer rhai trwm eu clyw. Mae staff y dderbynfa wedi eu hyfforddi er mwyn gallu cynorthwyo gwesteion ag anableddau. Ceir un ystafell wely sy’n gwbl hygyrch ar gyfer cadair olwyn ac sydd ag ystafell ymolchi en-suite wedi ei haddasu.

Bythynnod Carpenters, ger Cas-gwent

Mae’r Carpenters Arms yn dafarn glud yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy ac mae’n cynnig llety hunanarlwyo pum seren mewn dau lety wedi eu haddurno’n fodern, y ddau â lle i bedwar gysgu. Mae’r llety sydd ar y llawr gwaelod, Oak, yn addas ar gyfer y rheiny sy’n cael trafferth cerdded.

Hampton by Hilton,  Dwyrain Casnewydd

Mae gwesty modern yr Hampton by Hilton Hotel mewn lleoliad cyfleus oddi ar yr M4 ger Casnewydd, ac mae’n darparu ar gyfer ymwelwyr busnes a hamdden fel ei gilydd. Mae yno un ystafell benodol sy’n hygyrch i gadair olwyn ac sy’n cynnwys gwely maint brenhines, ystafell gawod en-suite heb unrhyw risiau, ac addasiadau eraill yn cynnwys teclynnau i godi cadeiriau a byrddau, a thwll crwn isel yn y drws er mwyn gallu gweld pwy sydd yr ochr arall.

Parc Gwyliau Happy Jakes, ger Llanilltud Fawr

Mae Happy Jakes yn barc carafanau a gwersylla addas ar gyfer pobl ag anableddau. Caiff ei redeg gan fusnes teuluol, ac mae’r parc wedi ei enwi ar ôl mab y perchnogion a gafodd ei eni â Trisomedd 21 (Syndrom Down). Maent wedi ymroi i wneud y parc yn un hygyrch i bawb, wedi adeiladu bloc cawodydd addas ar gyfer cadeiriau olwyn, ac wedi dylunio taith gerdded natur 60 metr o hyd sy’n daith synhwyraidd ar gyfer pobl ddall neu sydd â nam ar eu golwg.

Byngalo Homefield, Y Grysmwnt

Mae’r tŷ gwyliau hunanarlwyo Homefield wedi ei addasu ar gyfer anghenion rhai ag anableddau. Mae’n cynnwys tair ystafell wely, un ag ystafell wlyb en-suite a gwely y gellir ei addasu, a gyda theclyn codi trydanol y gellir ei symud o’r neilltu os nad yw’n cael ei ddefnyddio. Mae rhagor o offer ar gael ar gais. Mae modd i ddefnyddwyr cadair olwyn fwynhau yn yr ardd gan ddilyn llwybrau wedi eu dylunio’n arbennig, ac mae croeso i gŵn yma.

Parc Coed Machen, Llansanffraid-ar-Elái

Wedi eu lleoli yn ardal hardd Bro Morgannwg, mae pum bwthyn gwyliau Parc Coed Machen rhyw saith milltir o ganol Caerdydd. Mae tri bwthyn yn cynnwys dwy ystafell wely, ac un yn cynnwys tair ystafell wely, ac mae’r bythynnod mewn lle delfrydol er mwyn ymweld â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae dau o’r bythynnod wedi eu haddasu ar gyfer yr henoed neu ar gyfer rhai sy’n cael trafferth cerdded.

Dolenni defnyddiol

Open Britain: Mynegai mwyaf y Deyrnas Unedig o lefydd hygyrch i aros ac i deithio yno.

Accessible Countryside For Everyone:  Adnodd gwych er mwyn dod o hyd i wybodaeth am lefydd hygyrch yn y Deyrnas Unedig.

Information Now: Erthygl â dolenni er mwyn dod o hyd i’r tai bach cyhoeddus agosaf, gan gynnwys toiledau anabl a rhai sy’n rhan o gynllun RADAR/National Key Scheme.

Tourism For All: Gwybodaeth i deithwyr trên anabl sy’n teithio i Gymru.

Hefyd, gallwch chwilio ein gwefan er mwyn canfod llefydd hygyrch i aros, gweithgareddau, atyniadau a digwyddiadau hygyrch yng Nghymru.

Straeon cysylltiedig